Y mae dyfroedd iechydwriaeth A'u rhinweddau mewn parhad, Y mae ynddynt feddyginiaeth Anffaeledig ac yn rhad; Deuwch, gleifion codwm Eden, I ddefnyddio'r dyfroedd hyn; Ni bydd diwedd byth ar rinwedd Sylwedd mawr Bethesda lyn. - - - - - Y mae dyfroedd iachawdwriaeth, A'u rhinweddau mewn parhâd; Y mae ynddynt feddyginiaeth Anffaeledig, oll yn rhâd: Deuwch, gleifion codwm Eden, I ddefnyddio'r dyfroedd hyn, Ni bydd diwedd byth ar rinwedd Sylwedd mawr Bethesda lyn. Cofiwch hyn mewn stâd o wendid - Dyfroedd at y fferau sy', Dirifedi yw'r cufyddau A fesurir i chwi fry; Bod yn blant yr adgyfodiad, Nofio yn y dyfroedd hyn, Edrych ar ogoniant Iesu A fu'n gwaedu ar y bryn.Ann Griffiths 1776-1805 Tôn [8787D]: Llangan (alaw Gymreig) gwelir: Mae sŵn y clychau'n chwarae |
The waters of salvation have Merits in perpetuity, There is in them healing Unfailing and free; Come, ye wounded of the fall of Eden, To use these waters; There will never be an end to the virtue Of the great substance of Bethesda lake. - - - - - The waters of salvation have Merits in perpetuity; There is in them healing Unfailing, all free: Come, ye wounded of the fall of Eden, To use these waters, There shall never be an end to the virtue Of the great substance of Bethesda lake. Remember this in a state of weakness - Waters up to the ankles they are, Unnumbered are the cubits That shall be measured to thee above; Be a child of the resurrection, Swim in these waters, Look upon the glory of Jesus Who was bleeding on the hill.tr. 2017 Richard B Gillion |
Still the streams of our salvationH A Hodges 1905-76
|